Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
28 Tachwedd 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4661
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Dechreuodd yr eitem am 14.49
Dechreuodd yr eitem am 15.41
NDM6577 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.47
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6578 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod bod entrepreneuriaeth a mentrau bach a chanolig yn allweddol i Gymru o safbwynt creu gwell swyddi a chefnogi buddsoddiad a bod gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid, swyddogaeth allweddol o safbwynt creu’r amgylchedd cywir a chefnogi’r seilwaith.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn rhwydwaith o ganolbwyntiau entrepreneuraidd ym mhob rhan o Gymru.
Yn cynnig defnyddio’r cronfeydd trafodiadau ariannol newydd a ddyrannwyd i Gymru gan Lywodraeth y DU i greu cronfa fuddsoddi busnesau bach a chanolig newydd ar gyfer Banc Datblygu Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu corff arloesi cenedlaethol penodedig, fel partneriaeth rhwng busnes, llywodraeth a’r byd academaidd i gynyddu lefelau datblygu o ran cynhyrchion newydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
25 |
44 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM6578 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod bod entrepreneuriaeth a mentrau bach a chanolig yn allweddol i Gymru o safbwynt creu gwell swyddi a chefnogi buddsoddiad a bod gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid, swyddogaeth allweddol o safbwynt creu’r amgylchedd cywir a chefnogi’r seilwaith.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
0 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.37
Am 16.38, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 10 munud. Cafodd y gloch ei chanu 5 munud cyn ailgynnull ar gyfer dadl Cyfnod 3 Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).
Dechreuodd yr eitem am 16.48
Cafodd y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 fel y cytunwyd gan y Cynulliad ar 21 Tachwedd 2017.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Ni chynigiwyd gwelliannau 13 a 14.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gan fod gwelliant 7 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 8.
Gan fod gwelliant 5 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 9.
Derbyniwyd gwelliant 15, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 16, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
34 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 10.
Gan fod gwelliant 5 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 11.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 12:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 12.
Gan fod gwelliant 5 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 6 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 2.
Gan fod gwelliant 5 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 3.
Gan fod gwelliant 12 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 4.
Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.01
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 29 Tachwedd 2017